Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac mae modd eu gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2014 a dydd Mercher 2 Gorffennaf 2014
Dydd Mawrth 8 Gorffennaf 2014 a dydd Mercher 9 Gorffennaf 2014
Dydd Mawrth 15 Gorffennaf 2014 a dydd Mercher 16 Gorffennaf 2014
***********************************************************************
Dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymateb Llywodraeth Cymru i ail adroddiad Comisiwn Silk (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Cyflwyno'r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (60 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Dŵr (60 munud)
· Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Diwygio) 2014 (15 munud)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
· Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Newidiadau Ansylweddol a Chywiro Gwallau) (Cymru) 2014 (15 munud)
· Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Newidiadau Ansylweddol) (Cymru) 2014 (15 munud)
· Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Tai (Cymru) (180 munud)
Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y cafodd yr adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt eu rhestru yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 a gytunwyd gan y Cynulliad ar 17 Mehefin 2014.
Dydd Mercher 2 Gorffennaf 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ynghylch Ariannu Addysg Uwch (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Peter Black (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 8 Gorffennaf 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Cyflwyno Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (60 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 (30 munud)
· Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd (15 munud)
· Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Bwyd o Brydain) 2014 (15 munud)
Dydd Mercher 9 Gorffennaf 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i reoli tir yn gynaliadwy (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl Fer - Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 15 Gorffennaf 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (90 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Adnewyddu'r polisi newid hinsawdd (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi: Y wybodaeth ddiweddaraf am fynd i'r afael â thlodi (30 munud)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
· Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 (15 munud)
· Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Adnabod Cŵn) (Cymru) 2014 (15 munud)
· Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2014 (15munud)
· Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2014-15 (30 munud)
Dydd Mercher 16 Gorffennaf 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
· Datganiad gan Bethan Jenkins: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) (30 munud)
· Dadl ar Adroddiad Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch argaeledd gwasanaethau baritarig (60 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Eluned Parrott (Canol De Cymru) (30 munud)